Pum munud gyda Bardd y Mis: Llŷr Gwyn Lewis


Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannyddDisgrifiad o’r llun,

Llŷr Gwyn Lewis oedd Bardd y Mis cyntaf Radio Cymru nôl yn 2014 – ac ar ôl cyfnod eto yn 2017, mae o yn ei ôl ym mis Medi 2025.

Mae o’n wyneb a llais cyfarwydd ym myd barddoniaeth Gymraeg ac wedi bod yn talyrna ers blynyddoedd gyda’r Ffoaduriaid ac ymrysona gyda’r Penceirddiaid.

Fe enillodd Gadair Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 2022, ac mae o newydd gyhoeddi ei drydedd gyfrol o farddoniaeth, Holl Lawenydd Gwyllt, gyda Chyhoeddiadau Barddas.

Yn enedigol o ardal Caernarfon, mae o bellach yn byw yn Rhuthun gyda’i wraig Lowri a’u tri o feibion.

Pryd dechreuoch chi farddoni?

Ffynhonnell y llun, Llun teuluDisgrifiad o’r llun,

Llŷr yn ei Eisteddfod Genedlaethol cyntaf – Bro Madog 1987 – yn 13 wythnos oed gyda’i dad

Dw i’n cofio trio odli ambell rigwm pan o’n i’n fach iawn – tua saith oed siŵr o fod. Roedd gen i un go hen ffasiwn am Y Fenai dw i’n siŵr.

Pwysicach ella ydi nad ydw i’n cofio amser pan nad oedd barddoniaeth yn rhan hollol naturiol o fywyd a chymdeithas – yn y capel, mewn digwyddiadau yn y dre.

Mi oedd Dad ar dîm Talwrn, a Nain yn sgwennu penillion pryd bynnag roedd ‘na ryw achlysur fel rhywun yn ymddeol neu ginio Merched y Wawr.

Felly trio’u copïo nhw oedd y peth naturiol i’w wneud rywsut!

Disgrifiad o’r llun,

Llŷr yn cystadlu yn ffeinal Y Talwrn gyda’r Ffoaduriaid yn 2015

Lle fyddwch chi’n cael eich syniadau am gerddi a gwaith creadigol?

Yn fy ngherddi dw i’n tueddu i sgwennu lot am fy mhrofiadau eitha personol uniongyrchol fy hun – roedd hynna’n arfer bod yn gerddi serch a sgwennu am deithio i bob math o lefydd, ond bellach mae ‘na lot mwy o gerddi am waith, prysurdeb a phlant!

Rywsut dw i’n rhoi mwy o raff i’r dychymyg yn fy rhyddiaith – ond does ‘na ddim lot o hwnnw wedi’i sgwennu yn ddiweddar.

Rydych chi newydd gyhoeddi eich trydedd gyfrol o farddoniaeth, Holl Lawenydd Gwyllt. Sut mae eich gwaith wedi newid ers rhyddhau eich cyfrol gyntaf, ddegawd yn ôl?

Ffynhonnell y llun, Cyhoeddiadau BarddasDisgrifiad o’r llun,

Yn ogystal â barddoniaeth, mae Llŷr yn awdur dwy gyfrol ryddiaith, sef Rhyw Flodau Rhyfel a Fabula

Mae’n anodd i fi ddweud mewn ffordd achos sgen i ddim digon o bellter oddi wrth y gwaith. Dw i’n sicr yn gobeithio mod i wedi dysgu sgwennu yn fwy cryno a llai hirwyntog!

Mi ddywedodd fy ffrind Gruff yn ddiweddar mod i’n sgwennu’n fwy emosiynol erbyn hyn…

Dw i’n meddwl mai un peth sydd o ddiddordeb cynyddol i fi ydi cyfosod profiadau eitha personol, ‘domestig’ efo ystyriaeth ehangach o’r petha sy’n digwydd allan yn y byd, ac efo hanes hefyd.

Petaech yn gallu bod yn fardd arall am ddiwrnod – byw neu hanesyddol – pwy fydden nhw a pham?

O ystyried yr uchod – fy niddordeb mewn cyfosod profiadau personol efo digwyddiadau ‘mawr’ hanesyddol – bydda hi wedi bod yn wych (ond yn reit frawychus) cael bod yn esgidiau rhywun fel Guto’r Glyn, yn dyst i’r Rhyfel Can Mlynedd ac yna Ryfeloedd y Rhosynnau, gweld y syniad o Gymru fel endid yn dechrau ymgaregu, ac o bosib yn dadfeilio hefyd.

Un arall tebyg ond llawer mwy diweddar fyddai W. B. Yeats, fu’n dyst i newidiadau diwylliannol a gwleidyddol seismig wrth i’r Iwerddon fodern ymffurfio, a chwarae rhan yn y newidiadau hynny hefyd.

Ffynhonnell y llun, GettyDisgrifiad o’r llun,

Mae ‘na rywbeth yn ddifyr hefyd yn y ffaith i’r ddau gael bywydau anarferol o hir – felly yn anochel maen nhw’n magu ryw synnwyr o berspectif, o edrych ar bethau o hirbell a theimlo newid pethau. Ond wedyn mi welodd y ddau lot o bethau go erchyll a bod yn dyst i lot o dollti gwaed hefyd, felly wedi meddwl eto wna i sticio at fod yn fi fy hun, diolch!

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannyddDisgrifiad o’r llun,

Llŷr o flaen adeilad y GPO yn Nulyn, canolbwynt Gwrthryfel y Pasg, yn dilyn ôl troed WB Yeats. Un o gerddi mwyaf adnabyddus Yates yw Easter 1916

Pan fyddwch chi ddim yn ysgrifennu, beth fyddwch chi’n hoffi’i wneud i ymlacio?

Beryg mai’r sgwennu ydi’r ffordd o ymlacio bellach, rhwng bob dim arall. Faswn i’n licio dweud: seiclo, mynydda, darllen, cerddoriaeth, ond dwi’n fwy tebygol dyddiau yma o fod yn sgrolio ar fy ffôn ar ddiwedd dydd – am fwy hyd at syrffed ar hyn gweler y gyfrol uchod Holl Lawenydd Gwyllt…

Beth sydd ar y gweill gennych ar hyn o bryd?

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.


Source

Visited 1 times, 1 visit(s) today

Recommended For You

Avatar photo

About the Author: News Hound