
Ffynhonnell y llun, Getty ImagesDisgrifiad o’r llun,
Bale a Sturridge yn ystod y gêm rhwng Cymru a Lloegr yn Euro 2016
Mae dros 145 o flynyddoedd ers y gêm bêl-droed gyntaf rhwng Cymru a Lloegr.
Lloegr enillodd y gêm honno 2-1 ar y Kennington Oval yn 1879.
Nos Iau fe fydd y ddwy wlad yn herio ei gilydd unwaith eto mewn gêm ‘gyfeillgar’ yn Wembley.
Daw’r gêm ychydig ddyddiau cyn i Wlad Belg ymweld â Chaerdydd yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd 2026.
Mae’n anodd dyfalu sut dîm y bydd Craig Bellamy yn ei ddewis i wynebu Lloegr, gydag un lygaid ar y gêm hollbwysig yna’n erbyn Gwlad Belg ar 13 Hydref.
Dros y blynyddoedd mae Cymru wedi ennill 14 o’r gemau, Lloegr wedi ennill 69, ac mae 21 o’r gemau rhwng y ddwy wlad wedi gorffen yn gyfartal.
Dyma edrych yn ôl felly ar rai o’r gemau hynny.
15 Mawrth 1920: Highbury, Llundain
Ffynhonnell y llun, A. R. CosterDisgrifiad o’r llun,
Billy Meredith (dde) yn un o’i gemau olaf dros ei wlad, yn erbyn Lloegr yn 1919
Lloegr 1-2 Cymru (Pencampwriaeth Gwledydd Prydain)
Er bod y Cymry wedi trechu Lloegr mewn gêm answyddogol yng Nghaerdydd y flwyddyn flaenorol, nid oedd Cymru wedi ennill gêm ryngwladol lawn yn erbyn eu cymdogion ers bron i ddeugain mlynedd.
Dechreuodd pethau’n wael i’r ymwelwyr unwaith eto, pan roddodd Charles Buchan y tîm cartref ar y blaen ar ôl dim ond saith munud.
Wedi hynny, bu’n rhaid i Gymru oroesi mwy na hanner y gêm gyda dim ond deg dyn – wedi i Harry Millership adael y cae gydag anaf – ond sicrhaodd goliau gan Stan Davies a Dick Richards fuddugoliaeth wyrthiol i Gymru ar brynhawn dydd Llun gwlyb yng ngogledd Llundain.
Chwarter canrif wedi iddo ennill ei gap cyntaf, hon oedd gêm olaf Billy Meredith dros ei wlad ac roedd y dewin o’r Waun dan deimlad wrth iddo adael y maes.
22 Hydref 1955 – Parc Ninian, Caerdydd
Ffynhonnell y llun, Getty ImagesDisgrifiad o’r llun,
Fe sgoriodd John Charles gôl i’w rwyd ei hun
Cymru 2-1 Lloegr (Pencampwriaeth Gwledydd Prydain)
Daeth 60,000 drwy’r giatiau ym Mharc Ninian i weld Cymru’n trechu Lloegr am y tro cyntaf ers yr Ail Ryfel Byd, diolch i goliau gan Derek Tapscott a Cliff Jones.
Fe sgoriodd John Charles y diwrnod hwnnw hefyd, ond i’w rwyd ei hun yn anffodus, i roi llygedyn o obaith i Loegr. Roedd tîm Cymru y diwrnod hwnnw hefyd yn cynnwys Ivor Allchurch a Trevor Ford, gyda Jack Kelsey yn y gôl.
31 Mai 1977 – Wembley, Llundain
Ffynhonnell y llun, AFP via Getty ImagesDisgrifiad o’r llun,
Peter Shilton yn llorio Leighton James
Lloegr 0-1 Cymru (Pencampwriaeth Gwledydd Prydain)
Y tro cyntaf i Gymru drechu Lloegr ers 1955, ac unig fuddugoliaeth y crysau cochion yn Wembley (hyd yma).
Wedi i swyddogion Cymdeithas Bêl-droed Lloegr wrthod chwarae Hen Wlad Fy Nhadau cyn y gic gyntaf (gan nad oedden nhw’n ei chydnabod fel anthem genedlaethol), protestiodd tîm Cymru, oedd yn cynnwys cenedlaetholwyr pybyr fel John Mahoney a Dai Davies, drwy barhau i sefyll mewn llinell ar ochr y cae am rai eiliadau wedi i’r band orffen chwarae God Save the Queen.
Leighton James sgoriodd y gôl dyngedfennol o’r smotyn, wedi i Peter Shilton ei lorio yn y cwrt cosbi ychydig cyn diwedd yr hanner cyntaf.
17 Mai 1980 – Y Cae Ras, Wrecsam
Ffynhonnell y llun, Getty ImagesDisgrifiad o’r llun,
Phil Thompson sgoriodd gôl i’w rwyd ei hun
Cymru 4-1 Lloegr (Pencampwriaeth Gwledydd Prydain)
O flaen torf enfawr yn yr haul yn Wrecsam, cafodd Mike England y dechrau gorau posib i’w gyfnod fel rheolwr, wrth i Gymru fwynhau eu buddugoliaeth fwyaf erioed dros Loegr.
Tawelwyd y rhan fwyaf o’r 24,386 oedd yn y Cae Ras pan roddodd Paul Mariner yr ymwelwyr ar y blaen ar ôl chwarter awr.
Ond tarodd Mickey Thomas yn ôl bron yn syth, cyn i goliau pellach gan Ian Walsh, Leighton James a Phil Thompson (i’w rwyd ei hun) sicrhau mai’r cefnogwyr cartref oedd yn dathlu ar ddiwedd y prynhawn.
2 Mai 1984 – Y Cae Ras, Wrecsam
Ffynhonnell y llun, Getty ImagesDisgrifiad o’r llun,
Mark Hughes yn sgorio’r gôl fuddigol
Cymru 1-0 Lloegr (Pencampwriaeth Gwledydd Prydain)
Dyma’r tro diwethaf i Gymru drechu Lloegr.
O flaen torf o dros 14,000 ar y Cae Ras yn Wrecsam, bachgen lleol o’r enw Mark Hughes – oedd yn cynrychioli ei wlad am y tro cyntaf – sgoriodd unig gôl y gêm.
Sgoriodd Hughes ei ail gôl ryngwladol ar y Vetch, yn Abertawe, dair wythnos yn ddiweddarach, ond sicrhaodd peniad Gerry Armstrong mai Gogledd Iwerddon, yn hytrach na Chymru, oedd enillwyr diwethaf Pencampwriaeth Gwledydd Prydain.
16 Mehefin 2016 – Stade Bollaert-Delelis, Lens
Ffynhonnell y llun, Getty Images
Cymru 1-2 Lloegr (Rowndiau Terfynol Euro 2016)
Pwy allai anghofio’r achlysur yma? Dyma oedd ail gêm Cymru ym Mhencampwriaethau Euro 2016.
Ar ddiwrnod crasboeth yn Lens fe gamodd Cymru allan yn y cit llwyd i wynebu tîm Roy Hodgson, a oedd y ffefrynnau i ennill y grŵp.
Yn erbyn llif y chwarae roedd aelodau’r Wal Goch yn eu seithfed nef ar ôl i gic rydd ryfeddol Gareth Bale dwyllo Joe Hart yn y gôl ychydig funudau cyn hanner amser.
Roedd y dagrau’n llifo ymysg cefnogwyr Cymru; roedd y peth yn anhygoel, Cymru ar y blaen ar hanner amser gyda’r posibilrwydd o fynd i frig y grŵp gyda buddugoliaeth dros yr hen elyn.
Ond fe darodd Lloegr yn ôl gyda gôl flêr gan Jamie Vardy, cyn i Daniel Sturridge sicrhau’r fuddugoliaeth i Loegr ym munud olaf y gêm.
Er y golled fe lwyddodd Cymru i orffen ar frig y grŵp gyda Lloegr yn ail.
29 Tachwedd, 2022 – Stadiwm Ahmad bin Ali, Qatar
Ffynhonnell y llun, Getty Images
Cymru 0-3 Lloegr (Cwpan y Byd, Qatar 2022)
Hon oedd gêm olaf Cymru yn y grŵp ar ôl gêm gyfartal yn erbyn America a cholli yn erbyn Iran yng Ngwpan y Bydd 2022.
Roedd hi wedi bod yn Gwpan y Byd siomedig yn Qatar a doedd y gêm yn erbyn Lloegr fawr gwell.
Roedd Hennessey wedi’i wahardd yn dilyn cerdyn coch yn erbyn Iran felly Danny Ward ddechreuodd yn y gôl i Gymru.
Daeth pencampwriaeth Cymru yn Qatar i ben yn dilyn cic rydd wych wych gan Marcus Rashford, gôl gan Phil Foden, ac yna ail i Rashford.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.